Free bowel cancer awareness talks

Ebrill yw mis ymwybyddiaeth canser y coluddion

April is bowel cancer awareness month

 

 

Mae’n gyfle blynyddol gwych i addysgu eich busnes, mudiad neu grŵp cymunedol am y clefyd trwy ymuno â ni ar gyfer sgwrs codi ymwybyddiaeth rithiol rad ac am ddim.

It’s a fantastic annual opportunity to educate your business, organisation or community group about the disease by joining us for a free virtual awareness talk.

 

 

Yn y sgwrs fydd yn cael ei rhoi gan wirfoddolydd a chanddynt gysylltiad personol â chanser y coluddion, fe ddysgwch am symptomau mwyaf cyffredin canser y coluddion, y ffactorau risg sy’n gysylltiedig â’r clefyd ac am bwysigrwydd rhaglen sgrinio coluddion y GIG.

Delivered by a volunteer with a personal connection to bowel cancer, you’ll learn about the most common symptoms of bowel cancer, the risk factors associated with the disease and the importance of the NHS bowel screening programme.

 

 

Archebwch sgwrs bwrpasol ar gyfer grwpiau o 20 o bobl neu fwy trwy lenwi’r ffurflen archebu ar ein gwefan yma. Bydd archebion ar gyfer Mis Ymwybyddiaeth Canser y Coluddion yn cau ar ddydd Gwener 31 Mawrth – felly archebwch eich sgwrs heddiw!

Book a bespoke talk for groups of 20 people or more by completing the booking form on our website here. Bookings for Bowel Cancer Awareness Month will close on Friday 31 March – so book your talk today!  

 

 

Neu, beth am annog eich gweithwyr / aelodau / cydweithwyr i archebu lle ar un o’n sgyrsiau ymwybyddiaeth trwy archebu tocyn rhad ac am ddim ar Eventbrite.

Alternatively, why not encourage your employees/ members/ colleagues to sign up to one of our pre-booked awareness talks by booking a free ticket on Eventbrite.

 

 

Mae’r sgyrsiau wedi’u harchebu ymlaen llaw hyn yn agored i unrhyw un sydd eisiau addysgu eu hunain am ganser y coluddion, felly gallwch gymryd rhan waeth pa mor fach yw eich grŵp, neu hyd yn oed fel unigolyn. Bydd tocynnau rhad ac am ddim ar gael tan ddyddiadau cynnal y digwyddiadau. Mae sgyrsiau ar gael ar y dyddiadau a’r amserau canlynol. Y cyfan sydd ei angen yw gwasgu ar ddyddiad i archebu lle trwy Eventbrite.

These pre-booked talks are open to anyone who wants to educate themselves about bowel cancer, so you can get involved no matter how small your group, or even as an individual. Free tickets will be available up until the events take place. Talks are available at the following dates and times. Simply click on a date to make a booking through Eventbrite.

 

 

Dydd Iau 6 Ebrill am 11am-12pm

Thursday 6 April at 11am-12pm

Dydd Mercher 12 Ebrill am 12-1pm

Wednesday 12 April at 12-1pm

Dydd Iau 20 Ebrill am 2-3pm

Thursday 20 April at 2-3pm

Dydd Mawrth 25 Ebrill am 5:30-6:30pm

Tuesday 25 April at 5:30-6:30pm

 

 

Rhoddir yr holl sgyrsiau wedi’u harchebu yn Saesneg ac fe’u cynhelir trwy Zoom.

All pre-booked talks will be in the English language and will take place via Zoom.

Pam mae codi ymwybyddiaeth mor bwysig

Why raising awareness is so important

Ar hyn o bryd, canser y coluddion yw’r pedwerydd canser mwyaf cyffredin yng ngwledydd Prydain ac mae’r canser sy’n lladd yr ail nifer fwyaf o bobl. Mae bron i 43,000 o bobl yng ngwledydd Prydain yn cael diagnosis canser y coluddion bob blwyddyn, ac mae mwy nac 16,500 o bobl yn marw o’r clefyd bob blwyddyn.

Bowel cancer is currently the fourth most common cancer in the UK and the second biggest cancer killer. Nearly 43,000 people in the UK are diagnosed with bowel cancer each year, and more than 16,500 people die annually from the disease.

 

 

Ond nid oes rhaid i bethau fod felly, gan fod modd trin a gwella canser y coluddion, yn enwedig os yw’n cael ei weld yn gynnar. Dyna pam rydym yn gweithio i godi ymwybyddiaeth trwy ein rhaglen ymwybyddiaeth sy’n cael ei harwain gan wirfoddolwyr.

However, it doesn’t have to be this way, as bowel cancer is treatable and curable, especially when caught early. That’s why we’re dedicated to raising awareness through our volunteer-led awareness programme.

 

 

Beth fydd cynnwys y sgwrs

What the talk will cover

Bydd y sgwrs rithiol yn para am tua 30-45 munud a bydd yn cael ei rhoi gan un o’n gwirfoddolwyr wedi’u hyfforddi. Byddant yn trafod:

The virtual talk will last around 30-45 minutes and will be delivered by one of our trained volunteers. They’ll cover:

·         Arwyddion a symptomau – dysgwch am symptomau mwyaf cyffredin canser y coluddion

·         Signs and symptoms – learn the most common symptoms of bowel cancer

·         Risgiau – magwch ymwybyddiaeth o’r ffactorau risg sy’n gysylltiedig â chanser y coluddion

·         Risks – gain an awareness of the risk factors associated with bowel cancer

·         Sgrinio’r coluddion – dysgwch am raglen sgrinio coluddion y GIG ac am bwysigrwydd cymryd rhan

·         Bowel screening – learn about the NHS bowel screening programme and the importance of taking part

Cewch gyfle hefyd i ofyn unrhyw gwestiynau allai fod gennych i’r gwirfoddolydd. Mae gan lawer o’n gwirfoddolwyr brofiad personol o ganser y coluddion, sy’n golygu fod ganddynt lawer o wybodaeth a doethineb i’w rhannu.

You’ll also have the opportunity to ask the volunteer any questions you might have. Many of our volunteers have personal experiences of bowel cancer, and so have a great deal of knowledge and wisdom to share.

 

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *